Llythyr Sion Corn 2024
£8.00
Pob pris yn cynnwys TAW
Ho Ho Ho! Ma'n amser yna o'r flwyddyn eto!
Gwasgarwch ychydig o hud y Nadolig a chefnogwch Theatr y Sherman gyda llythyr gan Siôn Corn Rydyn ni'n gweithio gyda Siôn Corn i sicrhau bod y rhai bach yn profi rhywfaint o hud y Nadolig yn y cyfnod cyn y diwrnod mawr gyda llythyr gan y dyn ei hun wedi'i ddanfon yn uniongyrchol at eu drws. . Dychmygwch y cyffro y bydd eich plentyn yn ei brofi wrth agor y llythyr. Bydd Siôn Corn yn gwybod cymaint amdanyn nhw gan gynnwys ble mae nhw'n byw, beth fydden nhw'n ei hoffi ar gyfer y Nadolig, beth mae nhw wedi bod yn ei wneud yn ystod y flwyddyn ddiwethaf ac enw eu ffrind gorau. Archebwch Lythyr Sion Corn, ac yna byddwn mewn cysylltiad i ddarganfod mwy i helpu Siôn Corn i ysgrifennu ei lythyr. Bydd gennych opsiwn i yrru’r llythyr yn uniongyrchol at y plentyn neu ei anfon mewn amlen arferol fel y gallwch ei guddio nes eich bod am roi y llythyr iddynt. Y dyddiad olaf i archebu llythyr yw Rhagfyr 15, er mwyn sicrhau bod y llythyr yn cyrraedd cyn y Nadolig, oherwydd ar ôl y dyddiad hwnnw mae Siôn Corn yn brysur gyda phethau eraill!