Yn ffefryn Radio 4, digrifwr chwedlonol, a'r '42fed rheswm gorau i garu Prydain (The Telegraph), mae JOHN SHUTTLEWORTH yn ôl gyda mwy o straeon a chaneuon doniol sy'n cael eu perfformio ar ei organ Yamaha ffyddlon (gyda chyfeiliant gosod awtomatig!) Gyda'i sioe RAISE THE OOF, mae John yn dathlu 40 mlynedd yn y byd perfformio. Oedd, mi oedd hi’n 1985 pan gwrddodd â Dyn Clarinet y teledu - ei gymydog Ken Worthington a ddaeth yn olaf ar New Faces yn 73 (a chael croeshoeliad gan Tony Hatch!)