Rhannwch eich angerdd dros y theatr a chyfrannwch nawr i greu effaith heddiw.
Mae gwneud cyfraniad trwy gynllun Rhannu Eich Angerdd yn ffordd berffaith o rannu eich cariad at y theatr. Bydd eich rhodd naill ai’n galluogi pobl ifanc i gael mynediad i’r theatr trwy ein gwaith Ymgysylltu Creadigol neu’n helpu i ddatblygu talent artistiaid newydd Cymreig ac wedi’u lleoli yng Nghymru.
Gallwch ddewis sut i gyfrannu:
• Gwnewch gyfraniad nawr drwy wasgu’r botwm ar y dde, gan ddewis faint yr hoffech roi a pha faes o’n gwaith yr hoffech ei gefnogi.
• Neu, wrth brynu tocyn i gynhyrchiad Crëwyd yn y Sherman, dewiswch uwchraddio i docyn Rhannu Eich Angerdd, sy’n cynnwys rhodd o £10 i Theatr y Sherman.
Dysgwch fwy am sut mae eich rhodd yn helpu drwy lawrlwytho ein pecyn o Wybodaeth Bellach.

